1af Mawrth 2014

 

Mr David Rees AC

Cadeirydd

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

Annwyl Mr Rees

 

Ynghylch:  Datblygiad Cwm Taf at Weithredu Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer Canser

 

Mae’n bleser gan Gwm Taf adrodd ein bod ni wedi symud ymlaen yn sylweddol yn ystod 2013/14 at gwrdd â gofynion y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser. Gellir darllen manylion llawn ein llwyddiant i gyflawni hyn yn yr adroddiad blynyddol sydd ar gael ar ein gwefan:  

 

http://www.cwmtafuhb.wales.nhs.uk/opendoc/224449&88381330-D74D-DF94-5DF2626AB302D1A2

 

I grynhoi, gallwn adrodd fel a ganlyn:

 

1.        Gweithio ar y Cyd ar draws Sectorau -  Mewn ymateb i’r Cynllun Cyflawni sy’n rhoi pwyslais ar ddynesiad partneriaethol at ddarparu gwasanaethau canser,  mae Cwm Taf wedi cynnal dau gyfarfod i randdeiliaid hyd yn hyn, â’r nod o hysbysu ein partneriaid am y datblygiadau diweddaraf ac o roi i’r rhai a oedd yn bresennol y dasg o ddatblygu blaenoriaethau cyffredin gan osod seiliau ein Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer 2012/13 a 2013/14. Cafwyd cynrychiolaeth ardderchog yn y ddau gyfarfod ar draws yr holl sbectrymau gofal, ochr yn ochr â chynrychiolwyr y sector gwirfoddol a chleifion. Credwn ein bod ni wedi amlygu ymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth fel elfen hanfodol o’r dasg o wireddu ein Cynllun.

 

2.        Effeithioldeb gwasanaethau sgrinio canser a lefel yr ymgymeriad -  Mae’r ymgymeriad ar gyfer sgrinio yng Nghwm Taf yn cymharu’n dda â gweddill Cymru. Mae Cwm Taf yn cyrraedd yr ymgymeriad targed ar gyfer sgrinio’r frest, ond nid ydym yn bodloni’r targed o 60% ar gyfer sgrinio’r coluddion (51.90% 2011 – 2012) na’r targed o 80% ar gyfer sgrinio serfigol i gleifion rhwng 20 a 64 oed (76.70% yn 2011/12). Mae ein Tîm Iechyd Cyhoeddus lleol yn cydweithio’n glòs â’r Gwasanaeth Sgrinio gan dargedu ardaloedd penodol ar draws y boblogaeth lle mae’r ymgymeriad yn isel. Mae ymgyrch deiran yn cael ei chynllunio yn ystod 2014 i godi ymwybyddiaeth o raglenni sgrinio yn ogystal ag arwyddion a symptomau canserau penodol. Bydd yr ymgyrch yn cynnwys gwybodaeth hefyd am sut y gall pobl leihau eu risg o gael canser.

 

3.        Cyllid ar gyfer Gwasanaethau Canser – Mae Cwm Taf wedi atgyfnerthu ei waith mewn partneriaeth â sefydliad Gofal Canser Macmillan gan ganolbwyntio ar nifer o flaenoriaethau yn ystod 2012/13 i sicrhau bod cleifion yn gallu cyrchu’r gofal sydd ei angen arnynt. Mae’r gwelliannau a wnaed mewn gwasanaethau’n cynnwys penodi Nyrs Clinigol Macmillan sy’n Arbenigydd yng Nghanser y Croen, a Nyrs Arbenigol ym maes Oncoleg ar gyfer Canser Colonol-Refrol.  Mae dau Hwylusydd MT Macmillan rhan amser wedi cael eu penodi hefyd i weithio gyda’r timau gofal lliniarol ac aelodau o’r timau gofal iechyd sylfaenol/ cymunedol. Yn ogystal mae Seicolegydd Ymgynghorol rhan amser wedi cael ei gyllido gan Macmillan a’i benodi yn ystod mis Chwefror 2014.  Mae swyddi i ddau therapydd Iaith a Lleferydd wedi cael eu cyllido yn ogystal â dau Nyrs Rhag-Gynllunio Gofal a Rheolwr Gofal Claf-Ganolog ar gyfer Canser. Fe benodir pobl i’r swyddi hyn yn y dyfodol agos. Mae buddsoddiad sylweddol wedi cael ei dderbyn oddi wrth Macmillan, ac mae’n siŵr y bydd y swyddi ychwanegol hyn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at gwrdd ag anghenion ein cleifion canser.

 

4.        Lleihau’r Risg o Ganser/ Atal Canser -  Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydweithio’n glòs â llywodraeth leol, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Contractwyr Gofal Sylfaenol a’r Trydydd Sector er mwyn mynd i’r afael â’r ffactorau craidd sy’n achosi iechyd gwael. Mae’r Cynlluniau Integredig Sengl ar gyfer Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn cadarnhau ymrwymiad partnerol y Byrddau Gwasanaeth Lleol i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau o ran iechyd a’r heriau cysylltiol a wynebir o ran hybu iechyd. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth i gyflawni’r rhaglenni strategol a ganlyn:  Cwm Taf Di-Fwg sy’n anelu at ostwng y nifer sy’n ysmygu yng Nghwm Taf i 16% erbyn 2020. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar dair thema: atal pobl rhag dechrau ysmygu; helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu, a lleihau cyffyrddiad amgylcheddol â mwg sigarennau; Strategaeth ar Gamddefnyddio Sylweddau sy’n canolbwyntio ar weithredu at atal a thrin y cam-ddefnydd o alcohol a chyffuriau, a Strategaeth Pwysau Iach, Cymoedd Iach sy’n anelu at wella lefelau bwyta’n iach a gweithgaredd corfforol. 

 

Mewn cydnabyddiaeth o’r amddifadedd a’r anghydraddoldebau mewn iechyd a welir yn ardal ein Bwrdd Iechyd, rydym yn rhan o Raglen Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal Llywodraeth Cymru, gyda golwg ar wella iechyd y boblogaeth a deilliannau i gleifion trwy ganolbwyntio ar ffyrdd o fyw. Mae gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf wedi cynnwys:

-          Cyflwyno Cynllun Peilot y Cartrefi Di-Fwg

-          Darparu Hyfforddiant Ymyriad Cwta ynghylch Ysmygu ar gyfer ystod o aelodau staff y Bwrdd Iechyd a phartneriaid yn y gymuned

-          BASICS (Rhwsytrau rhag Ymgymeryd â Gwasanaethau Rhoi’r Gorau i Ysmygu ymhlith Menywod Beichiog)

-          Prosiect Ymchwil MAMMS (Modelau ar gyfer Cyrchu Cymorth i Roi’r Gorau i Ysmygu)

-          Mae Hyfforddiant Ymyriad Cwta ynghylch Alcohol wedi cael ei gyflwyno’n eang

-          Prosiect Macmillan Llyfrgelloedd RhCT: Gweithredodd Grŵp Ti Newydd Iach yn ystod 2013 yn Llyfrgelloedd Aberdâr, Pontypridd a Threorci.

 

5.        Mae Cwm Taf wedi amlygu ei ymrwymiad yn ystod y tair blynedd diwethaf i gyrraedd safonau canser cenedlaethol ac mae’r Timau Canser Aml-Ddisgyblaethol bellach yn cyrraedd lefel uchel o gydymffurfiad.

 

6.        Mae Cwm Taf wedi cyfranogi’n llawn yn y broses Arolygu gan Gymheiriaid dan arweiniad Arolygwyr Iechyd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Rhwydweithiau Canser. Mae arolygon wedi cael eu cynnal hyd yn hyn ym meysydd yr ysgyfaint, wroleg a’r Llwybr Traul Uwch.  Mae’r arolygon hyn wedi nodi arferion da mewn llawer o feysydd, ac ni chofnodwyd pryder na risg o bwys yn yr un maes. Mae Cynlluniau Gweithredu mewn bodolaeth yng nghyswllt pob arolwg er mwyn sicrhau bod unrhyw argymhellion gan yr arolygon yn cael eu rhoi ar waith.

 

7.        Cydnabuwyd arferion gorau yng Nghwm Taf -  dyfarnwyd statws arbenigol i’r Tîm Colonol-Refrol Aml-Ddisgyblaethol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl gan Gymdeithas Coloprotoleg Prydain Fawr ac Iwerddon.  Datganodd yr Athro Haray, Llawfeddyg Colonol-Refrol Ymgynghorol, sy’n arbenigydd arweiniol mewn llawdriniaeth laparosgopig ar y coluddion, “[fod] hyn yn gydnabyddiaeth bleserus o’r holl waith caled a gyflawnwyd gan wahanol aelodau o’r tîm wrth ddarparu hyfforddiant, sy’n cynnwys dosbarthiadau meistr byw yn ystod llawdriniaethau, nid yn unig ar gyfer cofrestryddion ond hefyd aelodau staff o bob gradd gan gynnwys nyrsys.”

 

 

Ein gobaith yw y bydd ein hymateb yn rhoi sicrwydd i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod Cwm Taf yn cyflawni ei ddyletswyddau’n ddyledus yn unol â Chynllun Cyflawni’r Llywodraeth ar gyfer Canser.

 

Yn gywir

 

 

 

Mr Kamal Asaad

Cyfarwyddydd Meddygol/ Arweinydd Gweithredol ar gyfer Canser